Cyfarfod y Grŵp Trawsbleidiol ar
Ffydd
Ffydd ar y rheng flaen…Cefnogi ein
cyn-filwyr
Ystafell Gynadledda 21, Tŷ Hywel, dydd Mawrth 3
Mawrth, rhwng 12.15 a 13.15
Yn
bresennol:
- Darren Millar AC, y Ceidwadwyr, Gorllewin Clwyd
(cyd-gadeirydd)
- William Graham AC, y Ceidwadwyr, Dwyrain De Cymru
(cyd-gadeirydd)
- Mike Hedges AC, Llafur, Dwyrain Abertawe
- Russell George AC, y Ceidwadwyr, Sir
Drefaldwyn
- Jim Stewart, Swyddog Materion Cyhoeddus ac Eirioli,
Cynghrair Efengylaidd Cymru (ysgrifennydd)
- Kieran Webster, Arweinydd y Gaplaniaeth, Cartrefi
Cymru ar gyfer Cyn-filwyr, Alabaré (siaradwr)
- Andrew Lord, Prif Weithredwr,
Alabaré
- Pierre Cornlouer, Alabaré
- Carol Wardman, Cynghorydd yr Esgobion ar yr Eglwys a
Chymdeithas, yr Eglwys yng Nghymru
- Stanley Soffa, Cadeirydd Cyngor Cynrychioli Iddewon
De Cymru
- Chris Cooke, Eglwys Rhyddid
- Philip Manghan, Cynghorydd ar gyfer y Gwasanaeth
Addysg Gatholig yng Nghymru, yr Eglwys Gatholig
- Ed Holland, Cyfarwyddwr, Holland Heritage
- Y Parchedig Carl Gidney
- Chris Heavyside
- Peter Evans, Rheolwr Materion Cyhoeddus Cymru, y
Lleng Brydeinig Frenhinol
- Elfed Godding, Ysgrifennydd Cyffredinol, Cynghrair
Efengylaidd Cymru
- Craig Lawton (cynorthwyydd i Suzy Davies
AC)
Ymddiheuriadau:
- Bethan Jenkins AC
- Simon Thomas AC
- Mohammad Asghar AC
- Janet Finch-Saunders AC
- Peggy Jackson, yr Eglwys yng Nghymru
- Peter Dewi, Cyngor yr Eglwysi Rhyddion
- Christine Abbas, y gymuned Baha'i
- Lisa Gerson, y gymuned Iddewig
- Colin Heyman, y gymuned Iddewig
- Sally Thomas, Cytûn
- Carys Moseley, yr Eglwys Bresbyteraidd
- Yr Esgob John Davies, Esgob Aberhonddu ac
Abertawe
Nid yw'r Grŵp Trawsbleidiol hwn yn gwahaniaethu rhwng
aelodau'r grŵp a gwesteion allanol, gan fod y lleoedd yn y
cyfarfodydd yn cael eu llenwi ar sail y cyntaf i'r
felin.
Cofnodion
- Estynnodd William Graham AC groeso i bawb, nododd yr
ymddiheuriadau a gafwyd gan yr Aelodau Cynulliad, a gofynnodd i
bawb gyflwyno'u hunain yn gryno.
- Nododd y Cadeirydd nad oedd unrhyw faterion yn codi
o'r cyfarfod blaenorol.
- Cyflwynwyd Kieran Webster o'r elusen Alabaré. Rhoddodd gyflwyniad
ar Ffydd ar y rheng flaen…Cefnogi ein
cyn-filwyr.
- Cafwyd trafodaeth a sesiwn holi ac ateb ar ôl y
cyflwyniad hwn.
- Y camau gweithredu a ddeilliodd o'r cyfarfod
oedd:
a.
Ysgrifennu at y Gweinidog yn
Llywodraeth Cymru sydd â chyfrifoldeb dros dai, gan ofyn pa
waith y mae'n ei wneud i sicrhau cynaliadwyedd cynlluniau tai
â chymorth i gyn-filwyr sy'n cael eu hariannu ar hyn o bryd
drwy grantiau sy'n gysylltiedig â LIBOR.
b.
Ysgrifennu at arweinwyr ffydd ac
arweinwyr enwadol er mwyn sicrhau eu bod yn ymwybodol o'r
gwasanaethau sy'n seiliedig ar ffydd sydd ar gael i gyn-filwyr yng
Nghymru.
c.
Ysgrifennu at y Gweinidog yn
Llywodraeth Cymru sydd â chyfrifoldeb dros iechyd a
gwasanaethau cymdeithasol, gan ofyn pa waith sy'n cael ei wneud i
sicrhau bod unrhyw reoliadau sy'n cael eu datblygu o ganlyniad i'r
Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant yn adlewyrchu'n
ddigonol yr angen i ddiwallu anghenion ysbrydol defnyddwyr
gwasanaeth.
d.
Ysgrifennu at y Gweinidog yn
Llywodraeth Cymru sydd â chyfrifoldeb dros addysg, gan ofyn
iddo sicrhau nad yw addysg grefyddol yn cael ei herydu mewn unrhyw
gwricwlwm Cymreig newydd sy'n deillio o waith adolygiad
Donaldson.
- Daeth Darren Millar AC â'r cyfarfod i ben, gan
nodi y byddai manylion y cyfarfod nesaf yn cael eu dosbarthu drwy
e-bost gan Jim Stewart.